Cynulliad Cendlaethol Cymru

Pwyllgor Cyllid

Fin(4)-HEF07

 

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch

Tystiolaethgan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

­                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                  Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru

Cyflwyniad CCAUC i'r Pwyllgor Cyllid

 

Cyflwyniad

 

1.            Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.  Mae CCAUC yn gyfrifol am gyllido addysg uwch (AU) yng Nghymru ac mae'n dosbarthu cyllid ar gyfer addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig i naw sefydliad addysg uwch (SAUau), yn cynnwys gweithgareddau addysgu Y Brifysgol Agored yng Nghymru.  Rydym hefyd yn cyllido cyrsiau AU mewn colegau addysg bellach.  Mae ein cyfrifoldebau am hyfforddiant cychwynnol athrawon yn cael eu cwmpasu o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a Deddf Addysg 2005.  Wrth glustnodi cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparwyr AU, rydym yn ceisio sicrhau bod blaenoriaethau polisi AU Llywodraeth Cymru, yn cynnwys y rhai sydd wedi'u nodi yn ein strategaeth gorfforaethol a'r mesurau cysylltiedig, yn cael eu bodloni. 

 

 

Ymchwil

 

2.            Pa mor llwyddiannus yw SAUau Cymru wrth sicrhau incwm ymchwil o'r holl ffynonellau.

 

Yn 2011/12 (y data diweddaraf sydd ar gael), gwnaeth prifysgolion Cymru sicrhau incwm ymchwil a ddaeth i gyfanswm o £170 miliwn gan ffynonellau allanol (h.y. nid CCAUC).  Mae dadansoddiad o'r ffynhonnell incwm hwn fel a ganlyn:

 

Ffynhonnell

Incwm Ymchwil o brifysgolion Cymru 2011/12

£M

Cynghorau Ymchwil

51.8

Cyrff llywodraeth ganolog y DU

46.2

Ffynonellau'r UE

33.5

Cyrff elusennol yn y DU

22.0

Diwydiant, masnach a chorfforaethau cyhoeddus y DU

9.4

Rhyngwladol (nid-UE)

5.3

Arall

1.7

Cyfanswm

169.9

 

Ffynhonnell: Cofnod Ystadegau Cyllid yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch 2011/12

 

Mae cwestiwn 3 isod yn cyfeirio at y dybiaeth o gyfran enwol o 5% ar gyfer Cymru mewn perthynas ag incwm o’r Cynghorau Ymchwil.  Cafodd sector AU Cymru fwy na'r gyfran 5% enwol o gyfanswm y DU ar gyfer incwm ymchwil gan lywodraeth y DU a ffynonellau'r UE, ond llai na'r 5% enwol gan gyrff elusennol y DU a diwydiant/masnach/corfforaethau cyhoeddus y DU.  Nid yw hyn yn syndod, o ystyried ystod y pynciau a dosbarthiad corfforaethau'r diwydiant a chyhoeddus o'r maint i gomisiynu ymchwil. 

 

Caiff gallu'r sector i ddenu incwm ymchwil gan ffynonellau allanol ei danategu gan y cyllid ymchwil y mae CCAUC yn ei ddarparu (Ymchwil o Ansawdd ac Ymchwil Ôl-raddedig.  Mae'r cyllid hwn, sydd oddeutu £76 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd, yn cael ei glustnodi ar sail canlyniadau asesiad o ansawdd yr ymchwil ledled y DU (Ymarfer Asesu Ymchwil 2008) a'r Fframwaith Asesu Ymchwil y DU cyn hynny, cyhoeddir y canlyniadau yn 2014).  Mae hon yn broses ledled y DU o adolygiad arbenigol sy'n darparu atebolrwydd ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil ac mae'n cynhyrchu tystiolaeth o fudd y buddsoddiad hwn. 

 

Roedd canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil 2008, sy'n llywio'r dyraniad o gyllid Ymchwil o Ansawdd/Ymchwil Ol-raddedig yn dangos bod Cymru wedi perfformio'n gryf ar draws amrywiaeth o bynciau gyda chyrhaeddiad o'r radd flaenaf mewn nifer o feysydd yn cynnwys peirianneg sifil, cyfrifiadureg a gwybodeg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth, seicoleg ac astudiaethau Celtaidd.  Cafodd 14% o'r holl weithgarwch ymchwil a gyflwynwyd gan sefydliadau Cymru ei asesu fel gweithgarwch 'o'r radd flaenaf', gyda 35% pellach yn cael ei asesu fel 'rhagorol yn rhyngwladol'.   

 

Mae cyllid y Cyngor ar gyfer ymchwil (Ymchwil o Ansawdd/Ymchwil Ol-raddedig) yn parhau i fod yr un ffynhonnell unigol fwyaf o incwm ymchwil ar gyfer SAUau Cymru o bell ffordd, sy'n dod i 31% o gyfanswm incwm ymchwil sector AU Cymru yn 2011/12.  Roedd hyn yn cynrychioli 4% o gyfanswm y Cyllid Ymchwil Rheolaidd ar gyfer y DU yn gyfan, canran a oedd yn ddigyfnewid ers 2010/11 (ac sy'n is na'r gyfran enwol ar gyfer Cymru yng nghwestiwn 3).

 

 

3.            Sut gall SAUau Cymru wella'u perfformiad i fodloni uchelgais Llywodraeth Cymru sef eu bod yn derbyn o leiaf 5 y cant o gyllid Cynghorau Ymchwil y DU?

Cyfran y sector o gyfanswm incwm Cynghorau Ymchwil y DU oedd 3.4% yn 2011/12, a oedd yn ddigyfnewid ers 2010/11.

Ceir cwestiwn ynghylch a yw uchelgais Llywodraeth Cymru i SAUau Cymru dderbyn o leiaf 5 y cant o gyllid Cynghorau Ymchwil y DU yn rhesymol ai peidio.  Mae'r 'Triongl Euraid' o brifysgolion (Rhydychen, Caergrawnt a Llundain) yn elwa'n benodol gan gyllid cystadleuol y Cyngor Ymchwil ac maent oll wedi'u lleoli yn Lloegr, felly'n effeithio'n anghymesur ar y perfformiad yn rhywle arall.  Er bod sefydliadau yng Nghymru'n cael mwy na'r gyfran 5% enwol yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, mae'r Cynghorau Ymchwil yn y meysydd hynny yn dyfarnu symiau is o gyllid o gymharu â'r rhai sy'n cwmpasu gwyddoniaeth a thechnoleg; mae ymchwiliad i'r dosbarthiad pynciau yng Nghymru wedi dangos bod ymchwilwyr yn fwy tebygol o fod mewn meysydd sy'n ennill llai o gyllid y Cynghorau Ymchwil (h.y. y rhai y tu allan i feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). 

Bydd y fenter newydd, Sêr Cymru, a amlygwyd yn strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru Llywodraeth Cymru, i hyrwyddo ymchwil STEM yn cefnogi'r amcan o roi hwb i bynciau STEM.  Mae Sêr Cymru wedi'i dylunio i gryfhau perfformiad yn sylweddol ac mae wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu ymchwilwyr o'r safon uchaf i Gymru.  Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd yn cymryd amser i gyflenwi'r amcanion ac, er ei bod yn cael ei chroesawu a'i bod yn werthfawr, nid yw ar raddfa a fyddai'n datrys y sefyllfa'n gyfan gwbl.

Mae targed Strategaeth Gorfforaethol CCAUC yn y maes hwn, sy'n olrhain cynnydd yn incwm y Cynghorau Ymchwil yn gyffredinol yn erbyn y DU, ac eithrio 'triongl euraid' Rhydychen, Caergrawnt a Llundain, wedi cael ei fodloni ym mhob blwyddyn o'r strategaeth gorfforaethol hyd yn hyn.  Mewn termau absoliwt, mae incwm y Cynghorau Ymchwil yng Nghymru wedi gostwng £1.9m (3.6%) rhwng 2010/11 a 2011/12.  Ar gyfer y DU yn gyffredinol, roedd incwm y Cynghorau Ymchwil mewn SAUau wedi gostwng 3.2% rhwng y ddwy flynedd, neu 4% os caiff sefydliadau'r 'triongl euraid' eu heithrio. 

Mae ein cyllid wedi hyrwyddo cydweithrediadau ymchwil a datblygiadau gwasanaethau a rennir sydd wedi gwella perfformiad ymchwil ac annog arbedion effeithlonrwydd.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn http://www.hefcw.ac.uk. Ymhlith yr enghreifftiau o gydweithrediadau ymchwil a gyllidir gan CCAUC mae Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth a Bangor (http://www.aberbangorpartnership.ac.uk); Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru (www.wicn.ac.uk); Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (www.lcri.org.uk); Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (www.wiserd.ac.uk); a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (http://www.c3wales.org).

 

4.            Ym mha feysydd mae SAUau Cymru'n cydweithredu'n llwyddiannus i  wneud cais am gyllid ymchwil, a sut y gellid gwneud gwelliannau mewn meysydd eraill lle mae angen mwy o gydweithrediad i gynyddu incwm ymchwil.

Roedd Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth-Bangor wedi creu ceisiadau ymchwil llwyddiannus ar y cyd gwerth £26.373 miliwn erbyn mis Chwefror 2013. Roedd y rhan fwyaf o'r cyllid ymchwil ar y cyd ym meysydd eang y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddiaeth.

Yn 2013, sefydlodd Prifysgol Caerdydd a thair prifysgol blaenllaw o ran ymchwil yn Ne Orllewin Lloegr - Bryste, Caerwysg a Chaerfaddon - bartneriaeth Great Western Four (G4W).  Bydd cysylltu Caerdydd yn y ffordd hon gyda thair prifysgol arall sy'n arwain ym maes ymchwil yn creu mas gritigol o ragoriaeth ymchwil, a bydd arbenigedd ymchwil cyfunol y pedwar sefydliad yn sicrhau bod Caerdydd - a Chymru - ar y blaen wrth sicrhau incwm ymchwil.

Mae tri Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol newydd sy'n seiliedig ar bynciau yn cael eu sefydlu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Sêr Cymru (wedi'i chydariannu gan CCAUC), a bydd eu hamcanion yn cynnwys cael incwm cydweithredol yn benodol. Y Rhwydweithiau hyn yw: Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Deunyddiau a Pheirianneg Ddatblygedig; Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd; a Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Gwyddorau bywyd ac Iechyd.

Yn ogystal, mae CCAUC yn cyllido Crwsibl Cymru, sef rhaglen o ddatblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth i ymchwilwyr addawol sydd â ffocws penodol ar hyrwyddo dull cydweithredol a rhyngddisgyblaethol i ymchwil.

 

 

Cefnogaeth ac incwm ffioedd dysgu

 

5.            Beth fu effaith ariannol y polisi ffioedd dysgu newydd, a gyflwynwyd ym mlwyddyn academaidd 2012/13, sy'n caniatáu i SAUau godi hyd at £9k y flwyddyn am gyrsiau AU?  Pa effeithiau ariannol mae'r polisi hwn yn debygol o'u cael yn y dyfodol?

 

Mae'r newid i'r drefn ffioedd a chyllido newydd yn golygu bod CCAUC wedi rhoi'r gorau i ddarparu cymorth cyllido addysgu i fyfyrwyr gartref/UE sy'n astudio yn SAUau Cymru, a bellach yn darparu cymorth grant ffioedd i bob myfyriwr israddedig llawn amser a myfyriwr TAR sy'n hanu o Gymru, lle bynnag y byddant yn astudio yn y DU, ac israddedigion llawn amser a myfyrwyr TAR sy'n hanu o'r UE sy'n astudio yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod rhan y fwyaf o gyllideb CCAUC yn cael ei gwario ar grantiau ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser a TAR (a delir i sefydliadau ar draws y DU drwy'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr), gyda llai ar ôl i'w buddsoddi yn y blaenoriaethau polisi eraill (e.e. ymchwil, cyfrwng Cymraeg ac ehangu mynediad yn ogystal â myfyrwyr rhan amser a myfyrwyr sy'n parhau).

 

Cyn cadarnhau recriwtio ar gyfer 2013/14, ein hamcangyfrifiad o daliadau grantiau ffioedd i SAUau Cymru oedd £117m.  Yn ogystal, yn seiliedig ar ddata Llywodraeth Cymru, gwnaethom amcangyfrif, mai'r taliadau grantiau ffioedd i ddarparwyr addysg uwch yng ngweddill y DU oedd oddeutu £50m.  Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos y bu cynnydd o 3% yn nifer yr ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru a gafodd eu derbyn i sefydliadau yn Lloegr o gymharu â 2012/13 a gostyngiad o 1% yn nifer yr ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru a gafodd eu derbyn gan sefydliadau Cymru, sef cynnydd cyffredinol o 90 myfyriwr sy'n hanu o Gymru i SAUau y DU. 

 

Yn ogystal, mae sefydliadau Cymru'n denu incwm ffioedd yn sgil ymgeiswyr o weddill y DU (y tu allan i Gymru).  Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos 10,320 o ymgeiswyr a dderbyniwyd sy'n hanu o Loegr, cynnydd o 1,140 neu 12% i gymharu â 2012/13.   Ein hamcangyfrifiad o'r incwm i SAUau Cymru sy'n gysylltiedig â chofrestriadau o weddill y DU sy'n uwch na £3,575, ar gyfer 2013/14 oedd £87m.

 

O 2014/15 mae ein modelu'n dangos mai'r cymorth grant ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau Cymru fydd oddeutu £157m, gydag oddeutu £68m yn cael ei dalu mewn grantiau ffioedd i ddarparwyr addysg uwch yng ngweddill y DU, y tu allan i Gymru, yn seiliedig ar ddata Llywodraeth Cymru.[1]  Mae'r cyllid hwn yn dilyn myfyrwyr sy'n hanu  o Gymru y tu allan i'r DU.  Nid oes gennym ddull o reoli lefel yr ymrwymiad cyllid hwn, yn bwysicach fyth, nid oes dull ar gael i sicrhau bod yr arian hwn yn cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 

 

Mae gwybodaeth bellach am fanylion ein dyraniadau cyllido ar gyfer 2013/14, yn ogystal â'r broses o gyfrifo'r gyllideb a thybiaethau'r grantiau ffioedd sy'n gysylltiedig â'n cymorth grant gan Lywodraeth Cymru o £382.284m yn 2013-14, ar gael yn Nyraniadau Cyllido CCAUC 2013/14

 

Mewn cymhariaeth â gweithredu'r drefn newydd yn Lloegr, mae'r polisi ffioedd dysgu newydd yng Nghymru'n darparu cymorth i fyfyrwyr, drwy ddarparu grant ffioedd, a fyddent fel arall (yng nghyd-destun Lloegr, lle mae myfyrwyr yn trefnu benthyciadau) yn cefnogi SAUau.  Er bod y polisi newydd yn darparu mwy o incwm i holl ddarparwyr AU y DU, nid yw'r lefelau cyllido a ddyrennir gan y Cynghorau Cyllido sydd ar gael i SAUau yng Nghymru mor uchel â'r rhai yn Lloegr.  

 

 

6.            A yw'r polisi ffioedd dysgu newydd yn creu lefel uwch neu is o ansicrwydd ariannol i SAUau?  Esboniwch eich ateb.

 

O dan y polisi ffioedd dysgu newydd, mae'r cyllid yn dilyn y myfyriwr TAR/ israddedig llawn-amser.  Golyga hyn bod cyfran yn fwy o incwm y sefydliad yn dibynnu ar ddewis y myfyriwr, sy'n creu marchnad ar gyfer y myfyrwyr hynny fel 'cwsmeriaid' AU. Ceir potensial i sefydliadau gynhyrchu incwm uwch gyda'r ffioedd uwch hyn, i'r rhai a all ddenu myfyrwyr.  Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'r math hwn o incwm yn ffrwd llai sicr o gyllid o gymharu â'r drefn flaenorol a oedd yn cynnwys cynnig mwy cytbwys o ffioedd is a chyllid CCAUC, sy'n golygu bod cynllunio'n anoddach.  Er bod recriwtio cyffredinol yn llywio dyraniadau sefydliadol, roedd cyllid CCAUC hefyd yn gallu darparu lefel sefydlog o gyllid (yn erbyn ffactorau amrywiol a ddyluniwyd i gefnogi SAUau i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru) a oedd yn darparu cyllid parhaus o flwyddyn i flwyddyn ac yn llyfnhau amrywiadau.

 

 

7.            Beth fu goblygiadau ariannol grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru, a beth fydd y goblygiadau ariannol tebygol yn y dyfodol?

 

Mae ein modelu'n dangos y bydd y drefn gyfredol yn parhau i'w gwneud yn ofynnol i fwy na 60% o gyllideb CCAUC gael ei gwario ar grantiau ffioedd dysgu i israddedigion amser-llawn a myfyrwyr TAR. O fewn hynny, bydd bron i 20% o gyfanswm ein cyllideb yn cael ei gwario i gefnogi myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio yn rhywle arall yn y DU (gweler y ffigurau uchod).

 

Y gofyniad i fodloni costau'r grant ffioedd dysgu yw'r gofyniad cyntaf ar gyllideb CCAUC erbyn hyn.  Mae hyn wedi golygu y bu'n rhaid i ni leihau nifer o linellau cyllid yn sylweddol, neu eu tynnu'n ôl yn llwyr, a oedd yn targedu cymorth i feysydd penodol o bolisi Llywodraeth Cymru'n flaenorol.  Ymhlith y llinellau cyllid a dynnwyd yn ôl mae:  Cronfa Arloesedd ac Ymgysylltu CCAUC (£8m y flwyddyn yn flaenorol) a fu'n gymorth i brifysgolion ddatblygu a masnacheiddio'u hymchwil er budd ehangach yr economi a'r gymdeithas; cymorth i brifysgolion a'u gweithgareddau ehangu mynediad (tua £5.7m) a'r premiwm ehangu mynediad (£9.9m) yn 2011/12; a chymorth ar gyfer costau ychwanegol darpariaeth cyfrwng Cymraeg (premiwm cyfrwng Cymraeg tua £1.5m yn 2011/12).

 

8.            A yw'r drefn cyllido gyfredol yn rhoi cymorth ariannol effeithiol i fyfyrwyr o'r cartrefi incwm isaf ac ai dyma'r ffordd fwyaf cost effeithiol o gefnogi'r garfan hon o fyfyrwyr yn ariannol?

 

Mae grant ffioedd CCAUC yn daladwy ar ran pob israddedig llawn-amser/TAR o'r UE a Chymru mewn SAUau yng Nghymru a phob myfyriwr sy'n hanu o Gymru sy'n mynychu SAUau yng ngweddill y DU.  Ni wahaniaethir yn ôl incwm cartrefi.

 

Mae israddedigion amser-llawn/myfyrwyr TAR sy'n hanu o Gymru o'r cartrefi incwm isaf (gan ddefnyddio amddifadedd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf fel procsi) yn llai tebygol o adael Cymru i astudio addysg uwch.  Er bod 34% o fyfyrwyr newydd sy'n hanu o Gymru yn mynd i astudio y tu allan i Gymru; mae oddeutu 19% o fyfyrwyr newydd sy'n hanu o Gymru sy'n dod o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn astudio y tu allan i Gymru. [ffynhonnell:  HESA 2011/12]

 

 

9.            Beth yw'r goblygiadau ariannol i Gymru roi cymhorthdal i fyfyrwyr Cymru sy'n astudio mewn SAUau y tu allan i Gymru?

 

Mae ein modelu'n awgrymu y bydd oddeutu 20% o gyfanswm ein cyllideb yn cael ei gwario i gefnogi myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio yn rhywle arall yn y DU, gyda'r rhan fwyaf o'r buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud yn Lloegr. Mae'r modelu hwn yn amodol ar rywfaint o amrywiad, nid lleiaf am nad oes gennym ffordd o reoli nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n dewis astudio yn rhywle arall yn y DU, na chostau'r ffioedd dysgu cysylltiedig, fel y nodwyd uchod.  Mae'r grantiau ffioedd yn gwneud myfyrwyr o Gymru yn benodol o ddeniadol i sefydliadau Lloegr y mae disgwyl iddynt fodloni targedau ehangu cyfranogiad ac sydd â hawl i recriwtio myfyrwyr sy'n ennill graddau Safon Uwch ABB neu'n uwch heb unrhyw gyfyngiad. Nid yw'r gefnogaeth hon i ddinasyddion Cymru wedi'i thargedu yn ôl anghenion ariannol ac mae'n golygu buddsoddi yn y seilwaith addysg uwch yn rhywle arall yn y DU ar draul buddsoddiad tebyg yn system Cymru. Mae hefyd yn golygu bod effeithiau lluosydd economaidd buddsoddiad mewn addysg uwch yng Nghymru'n cael eu lleihau.

 

10.          Beth yw goblygiadau ariannol pynciau drutach (ee meddygaeth a pheirianneg) yn cael eu cyllido o dan y drefn ffioedd newydd o ystyried bod rhai o'r cyrsiau'n costio mwy na'r uchafswm o £9k y flwyddyn i SAUau eu cyflenwi?

 

Ar hyn o bryd, bu'n bosibl i ni dalu premiwm o ran y pynciau blaenoriaeth a'r pynciau drutach sydd, yn hanesyddol, wedi denu mwy na £9k fesul myfyriwr mewn ffioedd a chyllid. Gan gydnabod yr anawsterau parhaus i sefydliadau sy'n darparu pynciau a oedd yn denu cyllid o fwy na £9k fesul myfyriwr mewn ffioedd a chyllid yn flaenorol, rydym yn ceisio cynnal premiwm pynciau drud (sy'n cwmpasu meddygaeth glinigol a deintyddiaeth a darpariaeth conservatoire), fodd bynnag, mae ein capasiti i gynnal y cymorth hwn o dan bwysau.

 

11.          Pa mor bwysig yw'r llif incwm i SAUau Cymru o ffioedd dysgu a dderbynnir gan fyfyrwyr sy'n hanu o'r tu allan i Gymru yn cynnwys gweddill y DU, myfyrwyr Ewropeaidd a myfyrwyr dramor?

 

 Mae'r rhagolygon ar gyfer 2012/13 yn nodi bod ffioedd amcangyfrifiedig o'r rhai sy'n hanu o weddill y DU ac Ewrop nad yw'n UE, yn ogystal â myfyrwyr tramor yn cynnwys oddeutu 23% o gyfanswm incwm SAUau Cymru neu 52% o gyfanswm yr incwm ffioedd yn 2012/13 (yn seiliedig ar ragolygon a ddarparwyd gan SAUau Cymru ar 31 Gorffennaf 2013).  Bydd cyfran incwm SAUau o ffioedd yn cynyddu mewn blynyddoedd dilynol a bydd cyfran incwm grantiau'r Cyngor Ymchwil yn lleihau.  Felly, mae'r llif incwm ffioedd gan fyfyrwyr sy'n hanu o'r tu allan i Gymru hefyd yn debygol o gynyddu os yw'r patrymau recriwtio cyfredol yn cael eu cynnal. 

 

Incwm arall a materion ariannol

 

12.          Pa gyfleoedd sydd gan SAUau i gynyddu incwm yn sgil recriwtio myfyrwyr ychwanegol?

 

Er ein bod wedi sefydlu uchafswm o grantiau ffioedd dysgu y byddwn yn talu i bob sefydliad yng Nghymru, nid oes cap ar nifer yr israddedigion llawn amser a myfyrwyr TAR y gall pob sefydliadau eu recriwtio. Felly, byddai incwm ychwanegol, sy'n uwch na'r hyn sy'n cael ei greu drwy grantiau ffioedd, yn dod yn sgil recriwtio israddedigion llawn amser a myfyrwyr TAR nad ydynt yn hanu o Gymru (a'r UE), yn cynnwys myfyrwyr tramor. Gallent hefyd ddenu incwm ychwanegol yn sgil recriwtio mwy o fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ol-raddedig a addysgir.

 

13.          Pa gynnydd a wneir mewn perthynas â dangosydd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru y bydd gan 'o leiaf 75% o SAUau Cymru incwm blynyddol sy'n fwy na'r canolrif ar gyfer y DU', a sut y gellir gwella hyn yn y dyfodol.

 

Mae'r dangosydd hwn yn debyg i'r hyn a geir yn Strategaeth Gorfforaethol CCAUC 2010-13, a nodwyd eto yn 2013-16 sef:  ‘Bydd gan o leiaf 75% o sefydliadau addysg uwch Cymru incwm blynyddol sy’n fwy na’r canolrif ar gyfer y DU, ac ni fydd unrhyw sefydliad yn y chwartel isaf erbyn 2015/16.  Wrth adrodd ar gyfer y cyfnod 2010-13, gwnaethom nodi 'Mae'r maes hwn o'n strategaeth gorfforaethol yn ymwneud â blaenoriaeth allweddol y Gweinidog i weld prifysgolion cryfach a mwy cynaliadwy, o faint sy'n eu galluogi i gystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae ein targed wedi canolbwyntio ar brifysgolion yn rhoi eu hunain yn y sefyllfa gorau i gystadlu drwy gyfuno, er mwyn sicrhau bod eu hincwm yn uwch na chanolrif y DU.  Er ei bod yn annhebygol y bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni, rydym wedi gweld tri uniad yn ystod y cyfnod [2010-13] (Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin; Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg).

 

Ers mis Ebrill 2013, gwelwyd uniad pellach wedi digwydd ac mae uniad hefyd wedi'i drefnu yn Ne Orllewin Cymru, rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a dau Sefydliad Addysg Bellach arall, fel rhan o ddatblygiadau'r brifysgol sector deuol.  Yn dilyn yr uniadau cyfredol  a chan dybio y bydd prifysgolion Bangor ac Aberystwyth yn sicrhau incwm ar lefel sy'n uwch na chanolrif y DU, rydym yn cyfrif y bydd pum prifysgol o blith wyth wedi cael trosiant sy'n fwy na chanolrif y DU (62.5%).    Rydym o'r farn efallai na fydd yn bosibl cyflawni targed y Strategaeth Gorfforaethol fel y mae ar hyn o bryd, heb ail-gyflunio pellach.

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Mae'r amcangyfrifon hyn yn cael eu rhoi i ddangos yr effaith gyffredinol ar y tair carfan yn y cynllun newydd.